|
Yn ogystal â'n gwaith cymunedol a gwaith codi arian, mae gan Ford Gron Llanbedr Pont Steffan raglen o weithgareddau cymdeithasol. Rydym yn cwrdd am ginio yn rheolaidd yn Nhafarn y King's Head, a phedairgwaith y flwyddyn, rydym yn ciniawa ar y cyd â Chlwb 41, clwb cyn-aelodau'r Ford Gron. Fel arfer, rydym yn cael rhyw fath o adloniant. Rydym yn cael cinio i ffwrdd yn yr hydref bob blwyddyn, ac yn ddiweddar rydym wedi ymweld â Gwesty'r Cawdor yn Llandeil a bwyty y Polyn yn Nantgaredig. |
|
|
|
Rydym yn hoff o'r awyr iach, ac rydym wedi bod yn cerdded yn Nyffryn Gwy, sgwba-blymio, beicio, bowlio, arfordiro a go-cartio. Mae rhai digwyddiadau ar gyfer y teulu fel y BBQ yn yr hâf a pharti Nadolig y plant. |