| Rydym yn gweithio yn ein cymuned yn codi ariad at achosion da, trefnu a chefnogi digwyddiadau a rhoi ein hamser ar gyfer y gymuned. Rydym yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian a threfnu rhai gweithgareddau codi arian ein hunain gan gynnwys taith beiciau noddedig a'r arddangosfa tan gwyllt. Rydym yn gwneud ymdrech arbennig i gefnogi elusenau lleol a chodi eu proffeil yn y gymuned. |
|
|
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cefnogi nifer o fudiadu lleol gan gynnwys y rhestr isod: Ambiwlans Sant Ioan Ford Gron yn India a Sri Lanka yn dilyn i Tsunami Ymddirodolaeth Ty Glyn Dafis i dalu am wasnaethu peirianwaith yn y ganolfan Ty Hafan Childrens' Hospice DASH Ambiwlans Awyr Cymru Apel Ardal 43 ar gyfer Hospis Llanelli Ffagl Gobaith Ceredigion |
| Yn 2006 adeiladon ni ardal BBQ a hamdden yng Nganolfan Ymddirodolaeth Ty Glyn Dafis Trust yng Nghiliau Aeron. Talon ni am y deunydd i gyd a gwnaethpwyd y gwaith mewn diwrnod yn null Groundforce. |
|
|
|
Ein digwyddiad mwyaf yw'r arddagofa tan gwyllt. Mae'n ddigwyddiad ar gyfer y gymuned ac mae'n rhoi cyfle i ni codi proffeil y Ford Gron. Mae canoedd ar gannoedd yn dod i weld y sioe ac mae'n mynd yn fwy pob blwyddyn. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwili Tractors a Chyngor y Dref am eu cefnogaeth. Ar ben y brif sioe rydym yn cynnal sioe arbennig ar gyfer preselwyr Canolfan Hafan Deg yn y dref. |
| Dros y Nadolig rydym yn helpu arddurno'r dref drwy codi coed Nadolig ar siopau a swyddfeydd yn dref. Mae'r elw yn mynd tuag at achosion da lleol. |
|